Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

3 Medi 2021

 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o’r cyfle i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.         Beth yw’r effaith y mae pandemig COVID-19 wedi’i gael arnom, a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru effaith y pandemig a galluogi adferiad yn dilyn y pandemig?

 

Yn ffodus iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol rydym wedi medru manteisio ar gynllun Furlough Llywodraeth y DU yn ystod cyfnod y pandemig sy’n golygu mai’r golled ariannol fwyaf yr ydym wedi gorfod ei wynebu yw’r gostyniad o oddeutu £700K yn ein hincwm masnachol, a hynny oherwydd fod ein hadeilad yn Aberystwyth wedi bod ar gau i’r cyhoedd.

 

Trwy gydol cyfnod y pandemig y mae Llywodraeth Cymru – a’n hadran noddi’n arbennig – wedi’n cefnogi’n dda ym mhob rhyw fodd.

 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn awyddus iawn i chwarae’i rhan i liniaru effaith y pandemig ac y mae ein cynllun strategol newydd – Llyfrgell i Gymru a’r Byd: Cynllun Strategol 2021-26 yn egluro’n fanwl sut yn union y bwriadwn wneud hynny.

 

Fel un o brif sefydliadau diwylliannol Cymru a noddir gan Lywodraeth Cymru, y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn chwarae rôl allweddol yn ein cynllunio strategol. Credwn yn gryf iawn fod gan y Llyfrgell gyfraniad pwysig i’w wneud  o ran gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a mynd i’r afael â’r rhwystrau hynny a fyddai’n ein rhwystro rhag cyrraedd nod y Ddeddf. Mae diwylliant yn gallu  bod yn arf bwerus yn ein hymdrechion i wireddu nodau’r Ddeddf a dod ag amrywiol fanteision i fywydau unigolion a chymunedau.

 

Rhaid wrth adnoddau digonol i wireddu ein bwriadau.

 

Ar gychwyn 2020 ac yng nghanol y pandemig roedd y Llyfrgell yn wynebu argyfwng ariannol difrifol ac yn wynebu diswyddo hyd ar 35 o aelodau staff a chwtogi’n sylweddol ar ein gwasanaethau. Yn ffodus iawn i ni fe benderfynodd Llywodraeth Cymru  ddarparu’r cyllid ychwanegol a oedd ei angen (sef £1M) i ni fedru osgoi’r toriadau a £750K ychwanegol er mwyn gweithredu argymhellion yr Adolygiad Teilwredig a gyhoeddwyd yn 2020.

 

Un o brif argymhellion yr Adolygiad Teilwredig a gyhoeddwyd yn 2020 oedd:

Argymhellwn y dylid rhoi sylw brys i ofynion ariannol y Llyfrgell, ac y dylai’r Llyfrgell amlinellu ei awgrymiadau ar gyfer anghenion cyllidebol digonol dros y pum mlynedd nesaf i’r Dirprwy Weinidog am Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, er mwyn er mwyn esbonio sut fydd yn medru cyflawni ei swyddogaethau craidd. Argymhellwn fod y Llywodraeth Cymru yn adolygu anghenion cyllido y Llyfrgell ar sail yr adroddiad yma. Nid yw panel yr adolygiad hwn yn credu fod y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

Darfu i’r Llywodraeth ddarparu cymorth brys i ni yn Ionawr 2021 ac y mae trafodaethau manwl wedi digwydd rhyngom yn ystod yr wythnosau diwethaf yma ynghylch ein anghenion ariannol am y tair blynedd nesaf. Mae’n hanfodol fod y gwaith rhagorol sydd wedi’i gychwyn yn dilyn yr Adolygiad Teilwredig yn parhau a disgwyliwn yn eiddgar i weld sut y mae’r Llywodraeth wedi ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan banelwyr yr Adolygiad.

Mae’r Llyfrgell wedi gwerthfawrogi’r cyfle sydd wedi’i gael i drafod y materion ariannol hyn gyda’r Llywodraeth.

 

Pa faterion ddylai’r pwyllgor eu blaenoriaethu wrth gynllunio ein rhaglen waith ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir?

 

Rydym ni’n awyddus iawn i weld y Pwyllgor yn rhoi sylw arbennig i un o saith nodau llesiant Deddf Lleisiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef y nod ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ gan graffu’n fanwl ar gyfraniad cyrff cyhoeddus Cymru at y nod hwn, ac yn arbennig yn eu defnydd a’u cefnogaeth o’r iaith Gymraeg, a dwyn cyrff a Llywodraeth a’i hadrannau i gyfrif os oes raid.

 

Eto’n gysylltiedig â’r nod hwn y mae angen sicrhau fod y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn rhoi cynlluniau a strategaethau ar waith a fydd yn sicrhau fod gennym weithlu dwyieithog ar gyfer y dyfodol: mae’r Llyfrgell, fel sawl corff arall  yn ei chael hi’n anodd penodi staff dwyieithog i swyddi allweddol mewn rhai meysydd.

 

Sut mae Brexit a’r berthynas newydd rhwng y DU a’r EU yn effeithio arnoch chi a’ch sefydliad? Pa gymorth ydych chi wedi’i gael i ymateb i’r newidiadau? Pa gymorth pellach, os o gwbl, sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

 

Y ffordd y mae Brexit wedi effeithio arnom fwyaf yw trwy’r gadwyn gyflenwi nwyddau. Mae derbyn cyflenwadau o Ewrop , megis caledwedd, offer cynnal a chadw ac yn y blaen wedi arafu’n sylweddol.

 

Heblaw am hyrwyddo a datblygu economi gweithgynhyrchu catref,  fel ein bod yn llai dibynol ar fewnforio nwyddau, ni allwn weld sut gall Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o gymorth i ni.

 

Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddarparu diweddariadau cyson i ni ar faterion sy’n  ymwneud â’n perthynas â’r EU.